Mae Siop y Pethe yn ymfalchio yn y ffaith ein bod ni’n cefnogi crefftwyr Cymru. Mae ein holl nwyddau yn cael eu creu gan gynhyrchwyr o Gymru neu yng Nghymru a nifer ohonynt yn ecscliwsif i ni. Yn fisol, byddwn yn cyhoeddi erthyglau am ein crefftwyr talentog, cyfle i chi ddod i adnabod y talent a’r wynebau tu ol i’r nwyddau hyfryd!
Rydyn ni wedi penderfynu cynnwys Glesni, o Crefftau'r Bwthyn ar gyfer ein herthygl gyntaf! Hi oedd ein cyflenwr cyntaf pan wnaethom ailagor y siop a'r adran grefftau ar y llawr cyntaf ym mis Tachwedd 2016.
Enw Llawn:Glesni Haf Arfon - Powell
Ble ges di dy fagu?
Llanerchymedd ond rydw i'n byw yng Ngheredigion erbyn hyn.
Pryd a pam es di ati i sefydlu Crefftau’r Bwthyn?
Wnes i ddechrau’r cwmni yn Medi 2014. ‘Ro’n i newydd gael fy mab, Iago, ac yn chwilio am nwyddau ar gyfer y tŷ, nwyddau Cymraeg, ac yn methu dod o hyd i unrhywbeth ‘ro’n i’n hoffi. Rydw i wedi bod yn gwneud crefftau ers blynyddoedd, wedi dysgu’r ddawn gan fy Nain a gan Mam, felly penderfynnu mentro ac mae’r cwmni’n mynd o nerth i nerth…yn enwedig ers i fi gychwyn gwerthu yn Siop y Pethe!
Pam dewis yr enw ‘Crefftau’r Bwthyn’?
Roedd y gair Bwthyn yn rhan o enw’r cartref teuluol ble ges i’n magu yn Llanerchymedd ac rydw i wedi cynnwys y gair yn enw’r tŷ ble rydw i a’r gwr yn byw yng Ngheredigion. Dyma ble rydw i’n creu’r holl nwyddau, felly mae’n gwneud synnwyr!
Sut fyddet ti’n disgrifio’r nwyddau?
‘Dwi’n defnyddio hen bethau i wneud pethau newydd. ‘Dwi’n casau gwastraff! ‘Dwi’n creu clustogau, fframiau, bynting, nwyddau llechi, cardiau ac addurniadau. Maer cyfan ar gael i’w personoli.
Beth ydy’r her fwyaf i ti fel crefftwr?
Y ffaith fy mod i’n berffeithydd! Rydw i hefyd yn jyglo’r crefftau gyda fy swydd fel milfeddyg a magu’r mab, ac mae na un arall ar y ffordd! Ond, rydw i’n mwynhau y broses ac yn cael boddhad o weld y nwyddau’n cael eu defnyddio a’i mwynhau gan eraill.
Sut mae cydweithio gyda Siop y Pethe wedi helpu ti?
Fi oedd y person cyntaf i gyflenwi casgliad o grefftau i’r siop a’r perchnogion newydd. Mae cael y ffenestr siop yna yn hollbwysig i grefftwyr, ac mae’r ymateb wedi bod yn wych! Rydw i’n cael archebion cyson trwy’r siop, ac yn gwario mwy o oriau yn gwneud crefftau nag yn gweithio fel milfeddyg a bod yn onest! Mae’r siop yn dda am arddangos y gwaith ac yn mynd â’r nwyddau i ddigwyddiadau fel yr Eisteddfod a’r Sioe Frenhinol. Mae wedi rhoi yr hyder i fi ddatblygu nwyddau newydd. Rydw i wedi creu casgliad newydd ac ecscliwsif i Siop y Pethe ar gyfer yr Eisteddfod, ac rydw i’n gyffrous iawn am hyn!
Mae nwyddau Crefftau’r Bwthyn ar gael yn y siop ac yma ar ein gwefan.
Diolch i Glesni am y sgwrs ac am barhau i greu nwyddau mor hyfryd! Dal ati!