DJ SG - Clwb Cymru 2

Disgrifiad
  • Rhifnod: Sain SCD2588
  • Label: Sain
  • Genre: Pop
  • Fformat: Albwm
  • Dyddiad Rhyddhau: 2009

Bydd eich traed yn tip-tapian a’ch calonnau’n clecian wrth wrando ar y casgliad unigryw hwn o hen ffefrynnau ar eu newydd wedd. Yn dilyn llwyddiant y casgliad cyntaf, yma ceir deg cân sy’n gyfarwydd i bawb ohonom! Ffefrynnau sydd i’w clywed yn bloeddio mewn tafarn neu gig, mewn gêm rygbi neu gan gôr meibion! Ond, bydd y fersiynau newydd yn gwneud i chi ddawnsio’n wyllt a chael homar o hwyl wrth floeddio canu mewn parti, clwb, car a wrth ddawnsio neu sglefrolio! .ar fin rhyddhau'r casgliad

Ail gasgliad o ganeuon poblogaidd wedi eu hail-gymysgu ar gyfer y clwb nos, parti neu unrhyw noson hwyliog!

£ 5.99
Uchafswm maint sydd ar gael.

Cynhyrch perthnasol