- Rhifnod: Sain SCD2716
- Label: Sain
- Genre: I BLANT
- Fformat: Albwm
- Dyddiad Rhyddhau: 2014
‘Holl Anifeiliaid y Goedwig’ yw ail albwm y band gwerin amgen o ardal Eryri, Gogledd Cymru ac mae’n cynnwys 15 cân ar thema anifeiliaid sy’n gymysgedd o ganeuon gwreiddiol, traddodiadol ac addasiadau o glasuron plant o Gymru.
Mae’r ddwy chwaer a brawd, Elan, Marged a Gwilym Rhys, yn canu mewn harmoni tri llais gyda dylanwad canu gwlad ac Americana yn amlwg. Ers sefydlu yn 2012 a rhyddhau eu halbwm cyntaf ‘Plu’ ym mis Gorffennaf 2013 mae’r band ifanc wedi mwynhau cryn sylw. Dros y flwyddyn diwethaf mae nhw wedi cael perfformio yng Ngwyl Ryngwladol Womex ac mewn nifer o wyliau Cymreig amlwg – Gwyl Gwydir, Gwyl Rhif 6, Gwyl Dinefwr – cyfleoedd ddaeth yn sgil cael eu dewis fel un o fandiau Gorwelion BBC Cymru. , Prosiect Cymru.
Ynghyd a ffefrynnau fel ‘Triawd y buarth’ a ‘Mam wnaeth gôt i mi’ mae’r albwm yn cyflwyno alawon newydd sbon – ‘Ar Garlam’ ac ‘Wyt ti’n un o’n teulu ni?’ sy’n defnyddio geiriau Myrddin ap Dafydd. “Mae ‘Holl Anifeiliaid y Goedwig’ yn agos iawn at ein calonnau ac rydym yn gobeithio bydd plant Cymru yn ei fwynhau cymaint â wnaethom ni yn ei greu.” Plu
Rhestr y Traciau
- Pris cludiant arferol yw £3.95, gyda dosbarthiad AM DDIM ar gyfer pob archeb dros £75