Caryl Parry Jones - Adre

Disgrifiad
  • Rhifnod: Sain SCD2462
  • Label: Sain
  • Genre: Gwerin
  • Fformat: Albwm
  • Dyddiad Rhyddhau: 2004

Mae caneuon ‘Adre’ yn tynnu ar y dylanwadau sydd wedi bod ar Caryl ar hyd ei hoes gerddorol, yn bennaf James Taylor, yr Eagles, Linda Ronstadt, Y Beach Boys a Stevie Wonder ac yn gasgliad o ganeuon sydd ymhlith y rhai mwyaf personol iddi eu cyfansoddi erioed. Mae yna deimlad organig iawn i’r cyfan gyda phwyslais arbennig ar gadw popeth yn real a gonest o’r alaw a’r geiriau i sŵn yr offerynnau. Mae hi’n teimlo ei bod hi wedi dod adre a’r gobaith yw y byddwch chi hefyd yn teimlo’r un peth wrth i chi wrando ar y casgliad arbennig yma.

£ 5.99
Uchafswm maint sydd ar gael.

Cynhyrch perthnasol