Côr Dre - Pan Gwyd yr Haul

Disgrifiad
  • Rhifnod: Sain SCD2783
  • Label: Sain
  • Genre: Corawl
  • Fformat: Albwm
  • Dyddiad Rhyddhau: 2018

Sefydlwyd Côr Dre yn 10 gan griw o bobl ifanc yng Nghaernarfon oedd a’u bryd ar ganu a chymdeithasu. Cynhaliwyd yr ymarferion cyntaf yng Nghapel Salem, Caernarfon gyda thua phymtheg aelod a thros y chwe blynedd ganlynol, denwyd nifer o aelodau newydd. Erbyn gwanwyn XNUMX, roedd y côr yn chwilio am arweinydd newydd ac fe ymunodd Siân Wheway ym mis Ebrill. Yn ystod y cyfnod dilynol, denwyd mwy o aelodau a chafwyd sawl llwyddiant, gan gynnwys gwobrau corawl mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol, Côr yr Ŵyl Ban Geltaidd XNUMX a chyrraedd rownd gynderfynol Côr Cymru XNUMX. Mae’r côr hefyd wedi ymddangos ar SXNUMXC ac wedi recordio lleisiau cefndir i gantorion adnabyddus fel John Owen- Jones a Dafydd Iwan. Erbyn heddiw, mae dros hanner cant o aelodau, yn dod o’r dref a’r ardal o amgylch Caernarfon. Wrth i’r côr gyrraedd carreg filltir y pen-blwydd yn XNUMX oed, priodol yw dathlu hynny drwy ryddhau CD o ganeuon amrywiol eu naws, o ganu gwerin i ganeuon newydd sbon cyffrous, yn ogystal â hen ffefrynnau a chyfraniadau unawdol gan hen ffrindiau. A does dim rhaid dweud, i gwblhau’r dathlu, bydd hymdingar o barti yng Nghaernarfon!

Rhestr y Traciau

  1. Rhywun Newydd yn y Dre
  2. Marwnad yr Ehedydd
  3. Lliwiau'r Gwynt
  4. Domine Iesu
  5. Y Deryn Pur
  6. Yma Wyf Finna 'i Fod
  7. Rhyfeddod
  8. Adre'n Ôl
  9. O Hapus Ddydd
  10. Pan Gwyd yr Haul
  11. Mor Fawr Wyt Ti (Trac Bonws / Trac Bonws)
£ 12.99
Uchafswm maint sydd ar gael.