Sain
Elfair Grug - Perlau Pefriol / Scintillation
Elfair Grug - Perlau Pefriol / Scintillation
Methu llwytho argaeledd pickup
- Rhifnod: Sain SCD2765
- Label: Sain
- Genre: Telyn
- Fformat: Albwm
- Dyddiad Rhyddhau: 2017
Yn ddiweddar dychwelodd y delynores Elfair Grug Dyer o Wlad Thai i barhau ar ei gyrfa fel telynores broffesiynol ym Mhrydain. Bu Elfair yn gweithio dramor am ddwy flynedd yn dysgu’r delyn mewn canolfan delyn arbennig yno. Cwblhaodd Elfair Radd Meistr yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion a hynny ddwy flynedd ar ôl ennill Gradd BMus Dosbarth Cyntaf ym XNUMX. Derbyniwyd Elfair i astudio Cerddoriaeth yn yr RNCM gyda chymorth a chefnogaeth ysgoloriaeth lawn gan yr ABRSM. Astudiodd Elfair ym Manceinion gydag Eira Lynn Jones ac y mae’n gyn-ddisgybl i’r delynores Elinor Bennett yng Nghanolfan Gerdd William Mathias yn Galeri, Caernarfon. Brodor o Fynytho, Llŷn yw Elfair ac y mae’n enw cyfarwydd yn y byd eisteddfodol ers yn ifanc iawn a phrofodd sawl llwyddiant yn flynyddol. Yn XNUMX enillodd y brif gystadleuaeth i Offerynwyr o dan XNUMX oed yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen. Elfair oedd enillydd Ysgoloriaeth Nansi Richards (Telynores Maldwyn) XNUMX ac enillodd gystadleuaeth y Rhuban Glas Offerynnol dros XNUMX oed yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r cylch a derbyn Ysgoloriaeth Peggy a Maldwyn Hughes. CLOUDS Pedwarawd Telyn. Cwblhaodd Elfair ei gradd Meistr yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion, ar ôl ennill ei gradd BMus yn y conservatoire gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn 2011 fel (ABRSM) Ysgolor. Mae Elfair yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth yr Eisteddfod (ABRSM), RNCM, Cronfa Les y Cerddor, Cyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad James Pantyfedwen ac Ymddiriedolaeth Elizabeth Evans a fu'n cefnogi ei hastudiaethau. Wedi'i eni yng nghalon Penrhyn Llŷn, mae Elfair wedi mwynhau nifer o lwyddiannau yn yr Eisteddfodau a'r gwyliau Cymraeg
Rhestr y Traciau
- Etude de Concert in Eb Minor Op.193
- Hiraeth
- Perlau yn y Glaw - Spiritoso
- Perlau yn y Glaw - Giocoso e ritmico
- Perlau yn y Glaw - Espressivo e licenza
- Perlau yn y Glaw - Brilliante
- Perlau yn y Glaw - Vivace
- Dafydd y Garreg Wen
- Andante
- Fantaisie Sur un Theme de L’Opera Eugene Onegin par Peter Tchaikovsky
- Yr Hydref / Hydref
- Scintillation for Harp
- Clymau Cytgerdd - Chwarae Mig
- Clymau Cytgerdd - Canu Penillion
- Clymau Cytgerdd - Hel Straeon
Share

Tanysgrifiwch i'n e-byst
Byddwch y cyntaf i wybod am stoc newydd a chynigion unigryw.