Elin Fflur - Lleuad Llawn

Disgrifiad
  • Rhifnod: Sain SCD2711
  • Label: Sain
  • Genre: Pop
  • Fformat: Albwm
  • Dyddiad Rhyddhau: 2014

Dilynodd Elin ei mam Nêst i’r byd cerddorol, ac yn ei harddegau bu mewn grwˆp gyda’i brawd Ioan ac yna gyda’r Moniars, partneriaeth a arweiniodd at ei halbym gyntaf Harbwr Diogel yn 2002. Yn yr un flwyddyn enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru, a daeth seren newydd lachar i ffurfafen y byd pop Cymraeg. Daeth albym Dim Gair yn 4, ac yna Cysgodion, Hafana a Goreuon Elin Fflur, yn ogystal â’r EP Ysbryd Efnisien.

Yn awr dyma albym arall sy’n gynnyrch rhai blynyddoedd o gyfansoddi a pherfformio gydag amrywiaeth o gerddorion; adnewyddwyd y bartneriaeth gerddorol gyda Sion Llwyd a fu’n bennaf gyfrifol am Harbwr Diogel , a Rob Reed, cynhyrchydd Cysgodion, a chafwyd cyfraniadau gwerthfawr hefyd gan Owen Powell (gynt o Catatonia), Hettie Bunker, Arwel Lloyd (Gildas) a’r cantorion Tesni Jones a Steffan Rhys Williams.

Rhestr y Traciau

  1. Cloriau Cudd
  2. Gweddi Cariad
  3. Teimlo
  4. Seren Wen
  5. Torri'n Rhydd
  6. Lleuad Llawn
  7. Sgwenna dy Stori
  8. Disgwyl y Diwedd
  9. Blino
  10. Dilynwch Nes y Daw
  11. Du a Gwyn
£ 12.98
Uchafswm maint sydd ar gael.