Sain
Ffion Hâf - Gwynfyd
Ffion Hâf - Gwynfyd
Methu llwytho argaeledd pickup
- Rhifnod: Sain SCD2726
- Label: Sain
- Genre: Clasurol
- Fformat: Albwm
- Dyddiad Rhyddhau: 2015
Yn wreiddiol o Ddryslwyn ger Llandeilo, dyma un o leisiau disglair ifanc Cymru a ddaeth i’r brig yng nghystadleaeth Gwobr Goffa David Ellis, y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r gororau 2015.
Merch fferm Danycapel, Dryslwyn yw Ffion sydd bellach yn gyfrifydd, wrth ei galwedigaeth, yn Abertawe. Datblygodd Ffion ddiddordeb fel cantores yn ifanc iawn trwy fudiad yr Urdd a’r Ffermwyr Ifanc. Mae’n cydnabod pwysigrwydd cystadlu yn yr eisteddfodau bach, lle cafodd y sylfaen i fynd ymlaen i berfformio ar lwyfanau cenedlaethol a rhyngwladol.
Cychwynodd Ffion ei hastudiaethau lleisiol o dan arweiniad y diweddar Maureen Guy ac yna aeth ymlaen i barhau ei hastudiaethau gyda Miriam Bowen. Yn ogystal â chanu clasurol, mae Ffion yn ymddiddori ym myd cerdd dant ac alaw werin, a hoffai gydnabod dylanwad, a diolch i Nia Clwyd.
Mae Ffion bob amser yn mwynhau canu fel rhan o gôr, ac yn falch iawn o gael perfformio gyda Chôr Llanddarog a’r Cylch ar y recordiad hwn, dan arweiniad Meinir Richards.
Adlewyrcha’r recordiad cyntaf yma gyfoeth a hyblygrwydd llais Ffion, a’i hymgais i gyffwrdd â chalon ac enaid ei chynulleidfa. Mwynhewch y casgliad yma o ffefrynau Ffion.
Share

Tanysgrifiwch i'n e-byst
Byddwch y cyntaf i wybod am stoc newydd a chynigion unigryw.