{"id":1549376978999,"title":"Glain Rhys - Atgof Prin","handle":"glain-rhys-atgof-prin","description":"\u003cp\u003e\u003cspan\u003eProduct ID : Rasal CD043\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003eLabel: Rasal\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003eGenre: Folk\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003eFormat: Album\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003eReleased: 2018\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e \u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eGlain Rhys – y gantores gyfansoddwraig â’r llais hudolus yn cyflwyno ei halbym gyntaf ‘Atgof Prin’.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eYn wreiddiol o’r Bala ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, rhyddhaodd Glain ei chaneuon gyntaf ar gasgliad Sesiynau Stiwdio Sain ac yn dilyn llwyddiant y traciau hynny bu Glain a’r band yn cydweithio gyda’r cynhyrchydd Robin Llwyd yn Stiwdio Sain ar ei halbym newydd ‘Atgof Prin’.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eEr bod canu yn rhan o’i bywyd ers cyn cof, daeth Glain i amlygrwydd gyntaf fel cantores-gyfansoddwraig ar ôl cystadlu ym Mrwydr y Bandiau Eisteddfod Genedlaethol y Fenni 2016, lle aeth ati i greu band yn arbennig ar gyfer y gystadleuaeth ac maent wedi mynd o nerth i nerth ers hynny. Roedd yn un o berfformwyr ‘Cân i Gymru’ eleni ar S4C gan berfformio’r gân ‘Ysbrydion’ gan Aled Wyn Hughes ac mae’n gorffen cwrs ‘perfformio’ dwy flynedd o hyd o dan ofal Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerdydd mis yma. Bu Glain yn llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd eleni hefyd gan dderbyn y drydedd wobr yn y gystadleuaeth ‘cyflwyno alaw werin unigol 19-25 oed’ a’r ail wobr yn y gystadleuaeth unawd o sioe gerdd 19 – 25 oed ac yn dilyn ei llwyddiant fe’i gwahoddwyd i fod yn un o’r 6 fydd yn cystadlu am ysgoloriaeth Bryn Terfel.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eBu Glain yn cydweithio gyda Robin Llwyd yn Stiwdio Sain yn Llandwrog ar yr albym newydd ac mae Marged Gwenllian (Y Cledrau) a Carwyn Williams (Patrobas) ynghyd ag Elidyr Glyn (Bwncath) yn cyfrannu i’r record hefyd. Wrth gyflwyno’r albym esbonia Glain; ‘Mae’r gerddoriaeth dwi’n ei gyfansoddi yn amrywio o ran genre ond tybiwn fod yna dinc gwerinol i’r caneuon yn fwy na dim. Dwi’n cael fy ysbrydoli i ysgrifennu gan fy mhrofiadau personol yn bennaf, yn ogystal â digwyddiadau sydd o fy nghwmpas i o ddydd i ddydd.’ Yn rhan o restr hirfaith Glain o ddylanwadau mae Caryl Parry Jones, Siân James a Gwenan Gibbard.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eBydd Glain a’r band yn dathlu cyhoeddi’r albym newydd mewn noson yn yr Eagles, Llanuwchllyn – nos Iau, Gorffennaf 5ed am 7.30yh. Trefnir y noson gan gwmni Sain i ddathlu cyhoeddi albym newydd Glain ac ail-ryddhau albym un o leisiaf mwyaf eiconig Cymru’r 70au – Eleri Llwyd : ‘Am Heddiw ‘Mae’n Nghân’. Dwy gantores = un noson arbennig! Mynediad am ddim – dewch draw!\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eDyddiadau perfformio Glain :\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003e\u003cbr\u003e01\/07 – Tafwyl, Caerdydd\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003e\u003cbr\u003e05\/07 – Yr Eagles, Llanuwchllyn\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003e\u003cbr\u003e20 \u0026amp; 21\/07 – Sesiwn Fawr, Dolgellau\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003e\u003cbr\u003e07\/08 – Caffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd\u003cbr\u003e08\/08 – Tŷ Gwerin, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd\u003cbr\u003e11\/08 – Llwyfan y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd\u003c\/p\u003e\n\u003cdiv id=\"tracks\"\u003e\n\u003ch3\u003eTrack Listing\u003c\/h3\u003e\n\u003col\u003e\n\u003cli\u003e\n\u003cspan class=\" onebit_mp3\"\u003e\u003cspan id=\"oneBitInsert_1\"\u003e\u003c\/span\u003e \u003ca href=\"http:\/\/sain.s3.amazonaws.com\/samples\/CD+-+Rasal+Gwymon+Copa\/Rasal\/CD043+Glain+Rhys\/01.+Ysu+Can.mp3\" class=\"sample\"\u003e\u003c\/a\u003e\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003eYsu Cân\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003e\n\u003cspan class=\" onebit_mp3\"\u003e\u003cspan id=\"oneBitInsert_2\"\u003e\u003c\/span\u003e \u003ca href=\"http:\/\/sain.s3.amazonaws.com\/samples\/CD+-+Rasal+Gwymon+Copa\/Rasal\/CD043+Glain+Rhys\/02.+Haws+ar+Hen+Aelwyd.mp3\" class=\"sample\"\u003e\u003c\/a\u003e\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003eHaws ar Hen Aelwyd\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003e\n\u003cspan class=\" onebit_mp3\"\u003e\u003cspan id=\"oneBitInsert_3\"\u003e\u003c\/span\u003e \u003ca href=\"http:\/\/sain.s3.amazonaws.com\/samples\/CD+-+Rasal+Gwymon+Copa\/Rasal\/CD043+Glain+Rhys\/03.+Y+Ferch+yn+Ninas+Dinlle.mp3\" class=\"sample\"\u003e\u003c\/a\u003e\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003eY Ferch yn Ninas Dinlle\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003e\n\u003cspan class=\" onebit_mp3\"\u003e\u003cspan id=\"oneBitInsert_4\"\u003e\u003c\/span\u003e \u003ca href=\"http:\/\/sain.s3.amazonaws.com\/samples\/CD+-+Rasal+Gwymon+Copa\/Rasal\/CD043+Glain+Rhys\/04.+Dim+Man+Gwyn.mp3\" class=\"sample\"\u003e\u003c\/a\u003e\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003eDim Man Gwyn\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003e\n\u003cspan class=\" onebit_mp3\"\u003e\u003cspan id=\"oneBitInsert_5\"\u003e\u003c\/span\u003e \u003ca href=\"http:\/\/sain.s3.amazonaws.com\/samples\/CD+-+Rasal+Gwymon+Copa\/Rasal\/CD043+Glain+Rhys\/05.+Marwnad+yr+Ehedydd.mp3\" class=\"sample\"\u003e\u003c\/a\u003e\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003eMarwnad yr Ehedydd\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003e\n\u003cspan class=\" onebit_mp3\"\u003e\u003cspan id=\"oneBitInsert_6\"\u003e\u003c\/span\u003e \u003ca href=\"http:\/\/sain.s3.amazonaws.com\/samples\/CD+-+Rasal+Gwymon+Copa\/Rasal\/CD043+Glain+Rhys\/06.+Yn+fy+Mhen.mp3\" class=\"sample\"\u003e\u003c\/a\u003e\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003eYn Fy Mhen\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003e\n\u003cspan class=\" onebit_mp3\"\u003e\u003cspan id=\"oneBitInsert_7\"\u003e\u003c\/span\u003e \u003ca href=\"http:\/\/sain.s3.amazonaws.com\/samples\/CD+-+Rasal+Gwymon+Copa\/Rasal\/CD043+Glain+Rhys\/07.+Gem+o+Genfigen.mp3\" class=\"sample\"\u003e\u003c\/a\u003e\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003eGêm o Genfigen\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003e\n\u003cspan class=\" onebit_mp3\"\u003e\u003cspan id=\"oneBitInsert_8\"\u003e\u003c\/span\u003e \u003ca href=\"http:\/\/sain.s3.amazonaws.com\/samples\/CD+-+Rasal+Gwymon+Copa\/Rasal\/CD043+Glain+Rhys\/08.+Rwbeth.mp3\" class=\"sample\"\u003e\u003c\/a\u003e\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003eRwbeth\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003e\n\u003cspan class=\" onebit_mp3\"\u003e\u003cspan id=\"oneBitInsert_9\"\u003e\u003c\/span\u003e \u003ca href=\"http:\/\/sain.s3.amazonaws.com\/samples\/CD+-+Rasal+Gwymon+Copa\/Rasal\/CD043+Glain+Rhys\/09.+Yr+Hyn+Wnes+i.mp3\" class=\"sample\"\u003e\u003c\/a\u003e\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003eYr Hyn Wnes i\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003e\n\u003cspan class=\" onebit_mp3\"\u003e\u003cspan id=\"oneBitInsert_10\"\u003e\u003c\/span\u003e \u003ca href=\"http:\/\/sain.s3.amazonaws.com\/samples\/CD+-+Rasal+Gwymon+Copa\/Rasal\/CD043+Glain+Rhys\/10.+Eiliad+Mewn+Cwmni.mp3\" class=\"sample\"\u003e\u003c\/a\u003e\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003eEiliad Mewn Cwmni\u003c\/li\u003e\n\u003c\/ol\u003e\n\u003c\/div\u003e","published_at":"2019-04-17T15:13:57+01:00","created_at":"2019-04-17T15:15:41+01:00","vendor":"Siop y Pethe","type":"","tags":["cerddoriaeth oedolion"],"price":999,"price_min":999,"price_max":999,"available":true,"price_varies":false,"compare_at_price":null,"compare_at_price_min":0,"compare_at_price_max":0,"compare_at_price_varies":false,"variants":[{"id":13672716173367,"title":"Default Title","option1":"Default Title","option2":null,"option3":null,"sku":"Glain Rhys - Atgof Prin","requires_shipping":true,"taxable":true,"featured_image":null,"available":true,"name":"Glain Rhys - Atgof Prin","public_title":null,"options":["Default Title"],"price":999,"weight":0,"compare_at_price":null,"inventory_management":"shopify","barcode":"5055162100438"}],"images":["\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0069\/2502\/5335\/products\/Glain_Rhys_-_Atgof_Prin.jpg?v=1555510544"],"featured_image":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0069\/2502\/5335\/products\/Glain_Rhys_-_Atgof_Prin.jpg?v=1555510544","options":["Title"],"content":"\u003cp\u003e\u003cspan\u003eProduct ID : Rasal CD043\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003eLabel: Rasal\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003eGenre: Folk\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003eFormat: Album\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cspan\u003eReleased: 2018\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e \u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eGlain Rhys – y gantores gyfansoddwraig â’r llais hudolus yn cyflwyno ei halbym gyntaf ‘Atgof Prin’.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eYn wreiddiol o’r Bala ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, rhyddhaodd Glain ei chaneuon gyntaf ar gasgliad Sesiynau Stiwdio Sain ac yn dilyn llwyddiant y traciau hynny bu Glain a’r band yn cydweithio gyda’r cynhyrchydd Robin Llwyd yn Stiwdio Sain ar ei halbym newydd ‘Atgof Prin’.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eEr bod canu yn rhan o’i bywyd ers cyn cof, daeth Glain i amlygrwydd gyntaf fel cantores-gyfansoddwraig ar ôl cystadlu ym Mrwydr y Bandiau Eisteddfod Genedlaethol y Fenni 2016, lle aeth ati i greu band yn arbennig ar gyfer y gystadleuaeth ac maent wedi mynd o nerth i nerth ers hynny. Roedd yn un o berfformwyr ‘Cân i Gymru’ eleni ar S4C gan berfformio’r gân ‘Ysbrydion’ gan Aled Wyn Hughes ac mae’n gorffen cwrs ‘perfformio’ dwy flynedd o hyd o dan ofal Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerdydd mis yma. Bu Glain yn llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd eleni hefyd gan dderbyn y drydedd wobr yn y gystadleuaeth ‘cyflwyno alaw werin unigol 19-25 oed’ a’r ail wobr yn y gystadleuaeth unawd o sioe gerdd 19 – 25 oed ac yn dilyn ei llwyddiant fe’i gwahoddwyd i fod yn un o’r 6 fydd yn cystadlu am ysgoloriaeth Bryn Terfel.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eBu Glain yn cydweithio gyda Robin Llwyd yn Stiwdio Sain yn Llandwrog ar yr albym newydd ac mae Marged Gwenllian (Y Cledrau) a Carwyn Williams (Patrobas) ynghyd ag Elidyr Glyn (Bwncath) yn cyfrannu i’r record hefyd. Wrth gyflwyno’r albym esbonia Glain; ‘Mae’r gerddoriaeth dwi’n ei gyfansoddi yn amrywio o ran genre ond tybiwn fod yna dinc gwerinol i’r caneuon yn fwy na dim. Dwi’n cael fy ysbrydoli i ysgrifennu gan fy mhrofiadau personol yn bennaf, yn ogystal â digwyddiadau sydd o fy nghwmpas i o ddydd i ddydd.’ Yn rhan o restr hirfaith Glain o ddylanwadau mae Caryl Parry Jones, Siân James a Gwenan Gibbard.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eBydd Glain a’r band yn dathlu cyhoeddi’r albym newydd mewn noson yn yr Eagles, Llanuwchllyn – nos Iau, Gorffennaf 5ed am 7.30yh. Trefnir y noson gan gwmni Sain i ddathlu cyhoeddi albym newydd Glain ac ail-ryddhau albym un o leisiaf mwyaf eiconig Cymru’r 70au – Eleri Llwyd : ‘Am Heddiw ‘Mae’n Nghân’. Dwy gantores = un noson arbennig! Mynediad am ddim – dewch draw!\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eDyddiadau perfformio Glain :\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003e\u003cbr\u003e01\/07 – Tafwyl, Caerdydd\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003e\u003cbr\u003e05\/07 – Yr Eagles, Llanuwchllyn\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003e\u003cbr\u003e20 \u0026amp; 21\/07 – Sesiwn Fawr, Dolgellau\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003e\u003cbr\u003e07\/08 – Caffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd\u003cbr\u003e08\/08 – Tŷ Gwerin, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd\u003cbr\u003e11\/08 – Llwyfan y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd\u003c\/p\u003e\n\u003cdiv id=\"tracks\"\u003e\n\u003ch3\u003eTrack Listing\u003c\/h3\u003e\n\u003col\u003e\n\u003cli\u003e\n\u003cspan class=\" onebit_mp3\"\u003e\u003cspan id=\"oneBitInsert_1\"\u003e\u003c\/span\u003e \u003ca href=\"http:\/\/sain.s3.amazonaws.com\/samples\/CD+-+Rasal+Gwymon+Copa\/Rasal\/CD043+Glain+Rhys\/01.+Ysu+Can.mp3\" class=\"sample\"\u003e\u003c\/a\u003e\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003eYsu Cân\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003e\n\u003cspan class=\" onebit_mp3\"\u003e\u003cspan id=\"oneBitInsert_2\"\u003e\u003c\/span\u003e \u003ca href=\"http:\/\/sain.s3.amazonaws.com\/samples\/CD+-+Rasal+Gwymon+Copa\/Rasal\/CD043+Glain+Rhys\/02.+Haws+ar+Hen+Aelwyd.mp3\" class=\"sample\"\u003e\u003c\/a\u003e\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003eHaws ar Hen Aelwyd\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003e\n\u003cspan class=\" onebit_mp3\"\u003e\u003cspan id=\"oneBitInsert_3\"\u003e\u003c\/span\u003e \u003ca href=\"http:\/\/sain.s3.amazonaws.com\/samples\/CD+-+Rasal+Gwymon+Copa\/Rasal\/CD043+Glain+Rhys\/03.+Y+Ferch+yn+Ninas+Dinlle.mp3\" class=\"sample\"\u003e\u003c\/a\u003e\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003eY Ferch yn Ninas Dinlle\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003e\n\u003cspan class=\" onebit_mp3\"\u003e\u003cspan id=\"oneBitInsert_4\"\u003e\u003c\/span\u003e \u003ca href=\"http:\/\/sain.s3.amazonaws.com\/samples\/CD+-+Rasal+Gwymon+Copa\/Rasal\/CD043+Glain+Rhys\/04.+Dim+Man+Gwyn.mp3\" class=\"sample\"\u003e\u003c\/a\u003e\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003eDim Man Gwyn\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003e\n\u003cspan class=\" onebit_mp3\"\u003e\u003cspan id=\"oneBitInsert_5\"\u003e\u003c\/span\u003e \u003ca href=\"http:\/\/sain.s3.amazonaws.com\/samples\/CD+-+Rasal+Gwymon+Copa\/Rasal\/CD043+Glain+Rhys\/05.+Marwnad+yr+Ehedydd.mp3\" class=\"sample\"\u003e\u003c\/a\u003e\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003eMarwnad yr Ehedydd\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003e\n\u003cspan class=\" onebit_mp3\"\u003e\u003cspan id=\"oneBitInsert_6\"\u003e\u003c\/span\u003e \u003ca href=\"http:\/\/sain.s3.amazonaws.com\/samples\/CD+-+Rasal+Gwymon+Copa\/Rasal\/CD043+Glain+Rhys\/06.+Yn+fy+Mhen.mp3\" class=\"sample\"\u003e\u003c\/a\u003e\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003eYn Fy Mhen\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003e\n\u003cspan class=\" onebit_mp3\"\u003e\u003cspan id=\"oneBitInsert_7\"\u003e\u003c\/span\u003e \u003ca href=\"http:\/\/sain.s3.amazonaws.com\/samples\/CD+-+Rasal+Gwymon+Copa\/Rasal\/CD043+Glain+Rhys\/07.+Gem+o+Genfigen.mp3\" class=\"sample\"\u003e\u003c\/a\u003e\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003eGêm o Genfigen\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003e\n\u003cspan class=\" onebit_mp3\"\u003e\u003cspan id=\"oneBitInsert_8\"\u003e\u003c\/span\u003e \u003ca href=\"http:\/\/sain.s3.amazonaws.com\/samples\/CD+-+Rasal+Gwymon+Copa\/Rasal\/CD043+Glain+Rhys\/08.+Rwbeth.mp3\" class=\"sample\"\u003e\u003c\/a\u003e\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003eRwbeth\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003e\n\u003cspan class=\" onebit_mp3\"\u003e\u003cspan id=\"oneBitInsert_9\"\u003e\u003c\/span\u003e \u003ca href=\"http:\/\/sain.s3.amazonaws.com\/samples\/CD+-+Rasal+Gwymon+Copa\/Rasal\/CD043+Glain+Rhys\/09.+Yr+Hyn+Wnes+i.mp3\" class=\"sample\"\u003e\u003c\/a\u003e\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003eYr Hyn Wnes i\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003e\n\u003cspan class=\" onebit_mp3\"\u003e\u003cspan id=\"oneBitInsert_10\"\u003e\u003c\/span\u003e \u003ca href=\"http:\/\/sain.s3.amazonaws.com\/samples\/CD+-+Rasal+Gwymon+Copa\/Rasal\/CD043+Glain+Rhys\/10.+Eiliad+Mewn+Cwmni.mp3\" class=\"sample\"\u003e\u003c\/a\u003e\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003eEiliad Mewn Cwmni\u003c\/li\u003e\n\u003c\/ol\u003e\n\u003c\/div\u003e"}

Glain Rhys - Atgof Prin

Disgrifiad

Product ID : Rasal CD043

Label: Rasal

Genre: Folk

Format: Album

Released: 2018

Glain Rhys – y gantores gyfansoddwraig â’r llais hudolus yn cyflwyno ei halbym gyntaf ‘Atgof Prin’.

Yn wreiddiol o’r Bala ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, rhyddhaodd Glain ei chaneuon gyntaf ar gasgliad Sesiynau Stiwdio Sain ac yn dilyn llwyddiant y traciau hynny bu Glain a’r band yn cydweithio gyda’r cynhyrchydd Robin Llwyd yn Stiwdio Sain ar ei halbym newydd ‘Atgof Prin’.

Er bod canu yn rhan o’i bywyd ers cyn cof, daeth Glain i amlygrwydd gyntaf fel cantores-gyfansoddwraig ar ôl cystadlu ym Mrwydr y Bandiau Eisteddfod Genedlaethol y Fenni 2016, lle aeth ati i greu band yn arbennig ar gyfer y gystadleuaeth ac maent wedi mynd o nerth i nerth ers hynny. Roedd yn un o berfformwyr ‘Cân i Gymru’ eleni ar S4C gan berfformio’r gân ‘Ysbrydion’ gan Aled Wyn Hughes ac mae’n gorffen cwrs ‘perfformio’ dwy flynedd o hyd o dan ofal Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerdydd mis yma. Bu Glain yn llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd eleni hefyd gan dderbyn y drydedd wobr yn y gystadleuaeth ‘cyflwyno alaw werin unigol 19-25 oed’ a’r ail wobr yn y gystadleuaeth unawd o sioe gerdd 19 – 25 oed ac yn dilyn ei llwyddiant fe’i gwahoddwyd i fod yn un o’r 6 fydd yn cystadlu am ysgoloriaeth Bryn Terfel.

Bu Glain yn cydweithio gyda Robin Llwyd yn Stiwdio Sain yn Llandwrog ar yr albym newydd ac mae Marged Gwenllian (Y Cledrau) a Carwyn Williams (Patrobas) ynghyd ag Elidyr Glyn (Bwncath) yn cyfrannu i’r record hefyd. Wrth gyflwyno’r albym esbonia Glain; ‘Mae’r gerddoriaeth dwi’n ei gyfansoddi yn amrywio o ran genre ond tybiwn fod yna dinc gwerinol i’r caneuon yn fwy na dim. Dwi’n cael fy ysbrydoli i ysgrifennu gan fy mhrofiadau personol yn bennaf, yn ogystal â digwyddiadau sydd o fy nghwmpas i o ddydd i ddydd.’ Yn rhan o restr hirfaith Glain o ddylanwadau mae Caryl Parry Jones, Siân James a Gwenan Gibbard.

Bydd Glain a’r band yn dathlu cyhoeddi’r albym newydd mewn noson yn yr Eagles, Llanuwchllyn – nos Iau, Gorffennaf 5ed am 7.30yh. Trefnir y noson gan gwmni Sain i ddathlu cyhoeddi albym newydd Glain ac ail-ryddhau albym un o leisiaf mwyaf eiconig Cymru’r 70au – Eleri Llwyd : ‘Am Heddiw ‘Mae’n Nghân’. Dwy gantores = un noson arbennig! Mynediad am ddim – dewch draw!

Dyddiadau perfformio Glain :
01/07 – Tafwyl, Caerdydd
05/07 – Yr Eagles, Llanuwchllyn
20 & 21/07 – Sesiwn Fawr, Dolgellau
07/08 – Caffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
08/08 – Tŷ Gwerin, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
11/08 – Llwyfan y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd

Rhestr y Traciau

  1. Ysu Cân
  2. Haws ar Hen Aelwyd
  3. Y Ferch yn Ninas Dinlle
  4. Dim Man Gwyn
  5. Marwnad yr Ehedydd
  6. Yn Fy Mhen
  7. Gêm o Genfigen
  8. Rwbeth
  9. Yr Hyn Wnes i
  10. Eiliad Mewn Cwmni
£ 9.99
Uchafswm maint sydd ar gael.