Gwawr Edwards - Alleluia

Disgrifiad
  • Rhifnod: Sain SCD2730
  • Label: Sain
  • Genre: Clasurol
  • Fformat: Albwm
  • Dyddiad Rhyddhau: 2015

Alleluia – albym newydd sbon gan y soprano ddisglair o Geredigion, Gwawr Edwards. Casgliad o ganeuon clasurol, ysgafn a Chymraeg traddodiadol yn cynnwys cyfraniadau gan westeion arbennig – ONLY MEN ALOUD, Côr Ieuenctid Môn, y mezzo soprano Caryl Hughes, y telynor Dylan Cernyw a’r Rhys Taylor Dixieband.
y mezzo-soprano Caryl Hughes, y delynores Dylan Cernyw a'r Rhys Taylor Dixieband.

Astudiodd Gwawr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, cyn symud i’r Guildhall yn Llundain gan dderbyn gradd meistr dosbarth cyntaf. Dros y blynyddoedd mae Gwawr wedi llwyddo mewn sawl cystadleuaeth gan gynnwys Ysgoloriaeth Towyn Roberts, Ysgoloriaeth Osborne Roberts, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Riban Glas Eisteddfod Llanbed, gwobr Violet Mary Davies am y soprano mwyaf disglair yn Eiseddfod Genedlaethol Cymru ac yn Awst XNUMX cyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth Radio XNUMX y Fonesig Kiri Te Kanawa – cystadleuaeth i ddarganfod seren opera y dyfodol.

Yn ddiweddar mae wedi canu gyda chwmni Opra Cymru, chwmni Opera de Lorraine cwmni opera Bampton a chwmni opera Glyndebourne, ac mae galw mawr amdani ar lwyfannau cyngerdd Prydain a thramor. , ,

Wrth gyflwyno’r albym mae Gwawr yn nodi prysurdeb y flwyddyn diwethaf; ‘Mae wedi bod yn flwyddyn fythgofiadwy a thu hwnt o brysur rhwng popeth, ac felly hoffwn gyflwyno y gryno ddisg hon i fy ngwr Dan, a’m merch fach Nel. Fe gafodd Nel ei geni nol ddiwedd Mawrth, ac fe sgwennais cân iddi ac mae’n drac ar yr albym newydd. Dwi’n gobeithio’n fawr y gwnewch ei mwynhau.’ .,

Mae'r albwm newydd yn cynnwys traciau 11 o ffefrynnau poblogaidd a chlasurol ynghyd â chyfansoddiad newydd gan Gwawr ei hun, cân sydd wedi ei neilltuo i'w merch fach, Nel, a anwyd yn gynharach eleni. 'Mae hi wedi bod yn flwyddyn gofiadwy iawn ac yn un anhygoel o brysur' meddai Gwawr, 'ar ôl bron i chwe blynedd ers fy albwm cyntaf ar Sain rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld Alleluia yn cael ei ryddhau ac hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. diolch yn arbennig i fy ngŵr Dan am ei gefnogaeth a'i arweiniad. '

Rhestr y Traciau

  1. On My Lips Every Kiss is Like Wine
  2. Alelwia
  3. Novello Medley (Waltz of My Heart / My Life Belongs to You / Shine Through My Dreams)
  4. Nel
  5. O Mio Babbino Caro
  6. The Lord's Prayer
  7. Medli Cymraeg (Y Darlun / Ar Lan y Môr / O Gymru)
  8. Fwyn Afon (Moon River)
  9. Climb Every Mountain
  10. Llam y Cariadau
  11. Moon River (Bonus Track)
£ 12.98
Uchafswm maint sydd ar gael.

Cynhyrch perthnasol