- Rhifnod: Sain SCD2702
- Label: Sain
- Genre: Cerdd Dant
- Fformat: Albwm
- Dyddiad Rhyddhau: 2013
Fel yn hanes sawl Cymro a Chymraes arall, mae cerdd dant wedi bod yn rhan o fy mywyd i ers dyddiau fy mhlentyndod. Bûm yn ffodus iawn i gael sylfaen a chefnogaeth amrhisiadwy yn y maes gan ddwy o brif gynheiliaid y traddodiad, sef Nan Elis ac Alwena Roberts. Bellach, teimlaf fod y grefft yn rhan annatod ohonof rywsut, a phe byddwn rhyw dro ymhell oddi cartref mewn gwlad bell, o bob dim, sain cerdd dant, yn sicr, fyddai’n codi’r hiraeth mwyaf arna’i!
Cefais fwynhad mawr yn pori yn ddiweddar drwy hen lyfrau megis Hanes a Henafiaeth Canu Gyda’r Tannau (Idris Fychan, XNUMX), Y Tant Aur (Dafydd Roberts, Telynor Mawddwy, XNUMX ac XNUMX), ac ysgrifau rhai o hoelion wyth y byd
cerdd dant yn hanner cyntaf yr XNUMXfed ganrif, rhai fel Dewi Mai o Feirion a J E Jones, Maentwrog. Yr hyn sy’n dod i’r amlwg dro ar ôl tro yw fod cerdd dant yn draddodiad byw sy’n newid o ran arddull a chynnwys cerddorol a geiriol o un degawd i’r llall. Rhoddais gynnig ar geisio adlewyrchu ychydig o’r presennol a’r gorffennol yn y casgliad hwn, gan fwynhau’n arw cael mynd yn ôl at rai o’r hen alawon telyn traddodiadol, at arddull fwy gwerinol y gorffennol ac at rai o’r hen fesurau oedd yn boblogaidd iawn ar un cyfnod – mesurau fel calon drom a’r tri thrawiad. Yn ogystal mae yma ddarnau ar fesurau sy’n dal i gael eu harfer yn gyffredin heddiw, fel y cywydd a’r englyn a darnau hefyd ar groes acen. Ar y llaw arall, mentrais gynnwys darnau sy’n fwy arbrofol, yn cymryd rhyddid o ran strwythr a ffurf, a hefyd un neu ddwy o ganeuon sy’n seiliedig ar gerdd dant ond sydd wedi crwydro rhyw fymryn i dir gwahanol. Ar bob achlysur ceisiais sicrhau fy mod yn dangos parch i’r geiriau uwchlaw popeth arall. Mae pob un o’r darnau, ac eithrio Noson Aflawen, A Glywi Di?, Mae’r Ddaear yn Glasu a Dau a Dwy, wedi eu perfformio yn hunan-gyfeiliant.
Diolch am wrando, a hir oes i gerdd dant!
Gwenan Gibbard, XNUMX
,
,
,
,
,
Rhestr y Traciau
- Nei Di Ganu 'Nghân?
- Noson Aflawen - Gyda / Gyda Cerys Matthews
- Pen Draw Llŷn
- Calon Drom
- A Glywi Di?
- Nid yw Cariad yn Ddall
- Glan Môr Heli
- Rowndio'r Horn - Gyda / Gyda Meinir Gwilym
- Y Ddaear yn Glasu
- Bro
- Traeth Lafan / Adlais Nia / Pen Rhaw
- Arglwydd Iesu, Dysg im Gerdded
- Dau a Dwy
- Rhwng Pen y Cei a Phen yr Allt
- Dosbarthiad safonol yw £3.95, gyda dosbarthiad AM DDIM ar gyfer pob archeb dros £75