Sylwch: Oherwydd sefyllfa barhaus COVID19, gall danfoniadau gymryd mwy o amser na'r arfer ar hyn o bryd!

Plu - Holl Anifeiliaid y Goedwig

Disgrifiad
  • Rhifnod: Sain SCD2716
  • Label: Sain
  • Genre: I BLANT
  • Fformat: Albwm
  • Dyddiad Rhyddhau: 2014

‘Holl Anifeiliaid y Goedwig’ yw ail albwm y band gwerin amgen o ardal Eryri, Gogledd Cymru ac mae’n cynnwys 15 cân ar thema anifeiliaid sy’n gymysgedd o ganeuon gwreiddiol, traddodiadol ac addasiadau o glasuron plant o Gymru.

Mae’r ddwy chwaer a brawd, Elan, Marged a Gwilym Rhys, yn canu mewn harmoni tri llais gyda dylanwad canu gwlad ac Americana yn amlwg. Ers sefydlu yn 2012 a rhyddhau eu halbwm cyntaf ‘Plu’ ym mis Gorffennaf 2013 mae’r band ifanc wedi mwynhau cryn sylw. Dros y flwyddyn diwethaf mae nhw wedi cael perfformio yng Ngwyl Ryngwladol Womex ac mewn nifer o wyliau Cymreig amlwg – Gwyl Gwydir, Gwyl Rhif 6, Gwyl Dinefwr – cyfleoedd ddaeth yn sgil cael eu dewis fel un o fandiau Gorwelion BBC Cymru. , Prosiect Cymru.

Ynghyd a ffefrynnau fel ‘Triawd y buarth’ a ‘Mam wnaeth gôt i mi’ mae’r albwm yn cyflwyno alawon newydd sbon – ‘Ar Garlam’ ac ‘Wyt ti’n un o’n teulu ni?’ sy’n defnyddio geiriau Myrddin ap Dafydd. “Mae ‘Holl Anifeiliaid y Goedwig’ yn agos iawn at ein calonnau ac rydym yn gobeithio bydd plant Cymru yn ei fwynhau cymaint â wnaethom ni yn ei greu.” Plu

Rhestr y Traciau

  1.   Wyt ti'n Un o'n Teulu Ni?
  2.   Ar Garlam
  3.   Llwynog Coch sy'n Cysgu
  4.   Hen Frân Fawr Ddu
  5.   Triawd y Buarth
  6.   Cân y Gaeafgwsg
  7.   Y Pry Bach a'r Eliffant Mawr
  8.   Cân Melangell
  9.   Poli Parot Taid
  10.   Mam Wnaeth Gôt i Mi
  11.   Milgi, Milgi
  12.   Tri Mochyn Bach
  13.   Un o Fy Mrodyr i
  14.   Diwrnod Cynta'r Gwanwyn
  15.   Nos Da Nawr
£12.98
Uchafswm maint sydd ar gael.

Cynhyrch perthnasol