Timothy Evans - Dagrau

Disgrifiad
  • Rhifnod: Sain SCD2548
  • Label: Sain
  • Genre: Clasurol
  • Fformat: Albwm
  • Dyddiad Rhyddhau: 2009

Ers iddo gyhoeddi ei albym ddiwethaf, mae Timothy wedi colli’r un a fu’n gefn iddo gydol ei fywyd, a’r un oedd yn mynd gydag ef i bob cyngerdd ledled Cymru. Mae’r brif gân ar y CD yma yn addasiad o gân Eric Clapton “Tears in heaven”, a’r geiriau gan Meryl George, chwaer Timothy, a chyflwynir hi gan y ddau er cof annwyl am eu mam. Clywir yma hefyd 5 o ganeuon eraill sydd wedi eu recordio am y tro cyntaf gan Timothy, ac ychwanegwyd atynt rai o ffefrynnau ei fam, gan wneud hwn yn gasgliad addas iawn i gofio amdani.

Dyma’r casgliad mwyaf amrywiol a gyhoeddwyd ganddo erioed – yn gyfuniad o addasiadau o ganeuon o sawl gwlad a sawl iaith, o ganeuon crefyddol a gwladgarol, a chlasuron poblogaidd cyfoes. Mae’n cynnwys hefyd y gân hyfryd sydd wedi tyfu dros y blynyddoedd yn un o brif ffefrynnau gwrandawyr radio Cymraeg, “Kara, Kara”.

£ 5.99
Uchafswm maint sydd ar gael.

Cynhyrch perthnasol