Trystan Llŷr Griffiths - Trystan

Disgrifiad
  • Rhifnod: Sain SCD2739
  • Label: Sain
  • Genre: Clasurol
  • Fformat: Albwm
  • Dyddiad Rhyddhau: 2015

Mae’r tenor Cymreig Trystan Llŷr Griffiths, sy’n enedigol o ardal Clunderwen, Sir Benfro, yn unawdydd cyngerdd poblogaidd ledled Cymru a thros Glawdd Offa.

Ef yw un o’r cantorion cyntaf i dderbyn Gwobr Astudio gan Ymddiriedolaeth Bryn Terfel ac yn 2012 fe’i dyfarnwyd yn Llais i Gymru gan Gwmni Recordiau Decca mewn cyfres deledu ar S4C.

Dechreuodd Trystan ar ei astudiaethau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ym maes Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau cyn cwblhau cwrs Meistr Lleisiol yn yr Academi Gerdd Frenhinol a chwrs ôl‑radd Perfformio Opera yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae newydd gwblhau ei astudiaethau fel Hyfforddai yn y Stiwdio Opera Cenedlaethol yn Llundain.

Ymysg ei lwyddiannau mae: Gwobr Ian Stoutzker 2014; Gwobr Richard Van Allan 2014; Gwobr Gerddorol Bruce Millar Gulliver 2014; Ysgoloriaeth Tywysog Cymru Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru XNUMX; Gwobr Canwr Ifanc y Flwyddyn Dunraven XNUMX; Gwobr Canwr Ifanc Cymreig MOCSA XNUMX; Gwobr Sybil Tutton XNUMX; Gwobr Canwr Ifanc y Flwyddyn Cymry Llundain XNUMX; Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts XNUMX; Gwobr Goffa Osborne Roberts XNUMX. . . . . .

Mae uchafbwyntiau llwyfan yn cynnwys ymddangosiadau yn Neuadd Frenhinol Albert, Gwŷl y Gelli gyda Bryn Terfel, Brynfest yng Nghanolfan Southbank, perfformiad cyngerdd o Tristan und Isolde gyda Cherddorfa Philharmonic Frenhinol Lerpwl ynghyd â datganiadau yn St Martin-in-the-Fields a Gwŷl Gerdd Caerdydd.

Ef oedd Carlos mewn recordiad o Le Duc d’Albe gyda Cherddorfa’r Hallé i Opera Rara, ac yn ystod haf 2015 derbyniodd ysgoloriaeth i fynychu Preswylfa Mozart gyda Gwŷl d’Aix-en-Provence. Gwnaeth Trystan ei ymddangosiad operatig proffesiynol cyntaf fel Ferrando yn Cosi fan tutte ar daith

.

Rhestr y Traciau

  1. Arafa Don
  2. Nearer My God to Thee
  3. Dein ist Mein Ganzes Hertz
  4. Dal Labbro il Canto Estasiato Vola
  5. Llanrwst
  6. Dros Gymru'n Gwlad - gyda/with Gwydion Rhys
  7. Am Mai
  8. Abide With Me
  9. Cilfan y Coed
  10. Ideale
  11. Nella Fantasia
  12. E La Solita Storia
  13. Nes Ata Ti, fy Nuw
  14. Y Geni - gyda/with Bryn Terfel
£ 12.98
Uchafswm maint sydd ar gael.