Yr Ods - Troi a Throsi

Disgrifiad
  • Rhifnod: CopaCD014
  • Label: Copa
  • Genre: Pop a Roc
  • Fformat: Albwm
  • Dyddiad Rhyddhau: 2011

Mae ‘na rai pethau sy’n werth disgwyl amdanynt. Uwchraddiad crand i’ch ffon – na. Bore ‘Dolig – hm. Albwm newydd un o fandiau mwyaf llewyrchus Cymru – ie.

Rydym wedi troelli a throelli EP blwydd oed Yr Ods, nes bod caneuon megis ‘Y Bel yn Rowlio’ yn byw yn ein pennau. Rydym wedi blasu abwyd ambell i gân newydd ganddynt yn eu gigs niferus. Mae’r clustiau felly’n awchu am Troi a Throsi, eu halbwm newydd sbon.

“Dani fel band yn credu yn gryf mewn peidio ag aros yn llonydd pan mae’n dod at arddull a sŵn,” meddai Rhys Aneurin, meistr allweddellau Yr Ods. “Gyda’r record yma, rydym wedi anelu at sŵn ychydig bach mwy ffyddlon i’n sŵn byw, ynghyd a chael mwy o gitars a phiano, ac wedi cyfuno llawer o ddylanwadau gwahanol o fewn cerddoriaeth bop. `Dani hefyd wedi mynd ati i geisio ysgrifennu geiriau sy’n fwy sinistr na’r caneuon o’n gorffennol. Mae’n bennod arall i ni fel band, dani’n falch iawn o’r record.”

Gellir dadlau fod Troi a Throsi yn ffitio’n daclus rhwng sain senglau cynnar ac EP diweddaraf Yr Ods. Rhyw damaid yn fwy roc a rôl, rhyw damaid yn llai o sain yr 80au. Unwaith eto, mae’r band yn rhannu’r dyletswyddau canu, a’r caneuon hynny’n glynu at ei gilydd o dan gynhyrchu dihafal Dave Wrench.

Rhestr y Traciau

  1. Paid â Gwrando ar y Gân
  2. Dadansoddi
  3. Cerdded
  4. Siân
  5. Dwi'm yn Angel
  6. Agor Dy Lygaid
  7. Cariad (Dwi Mor Anhapus)
  8. Troi a Throsi
  9. Awyr Iach
  10. Cau Dy Lygaid
£ 4.99
Uchafswm maint sydd ar gael.