- Rhifnod: Sain LL035 / Sain SCD2753
- Label: Sain
- Genre: Gwerin
- Fformat: Sengl
- Dyddiad Rhyddhau: 2016
1
/
of
1
Sain
Gwerinos & Yws Gwynedd - Hogia Ni / All the Way
Gwerinos & Yws Gwynedd - Hogia Ni / All the Way
pris rheolaidd
£2.99
pris rheolaidd
pris gwerthu
£2.99
Pris yr uned
/
y
Treth wedi'i chynnwys.
Cludiant cyfrifir wrth y til.
Methu llwytho argaeledd pickup
Gyda ychydig llai na chan niwrnod cyn cychwyn cystadleuaeth Ewro 100 mae’r cynwrf wedi cychwyn a’r edrych ymlaen bron yn anioddefol! Eisoes gwelwyd rhaglenni radio a theledu, cyhoeddi llyfrau, casglwyd sticeri ac yn fuan gellir gyd-ganu efo Gwerinos i gefnogi hogia’ Chris Coleman yn Ffrainc ym mis Mehefin. Ie, dydd Llun, Mawrth 16 bydd Gwerinos yn rhyddhau sengl newydd ar label Sain a hynny yn Gymraeg a Saesneg, sef Hogia’ Ni ac All The Way.
“Fues i’n ddigon ffodus i gael dilyn Cymru i’r rhan fwyaf o’r gemau rhagbrofol a hynny wedi oes o siom yn dilyn Cymru,” meddai Ywain Myfyr aelod o’r grŵp. “Wedi gweld Cymru’n curo Israel ro’n i’n teimlo reit hyderus bod ni’n mynd i gyrraedd Ffrainc, a thra’n eistedd ar y traeth allan yn Hafia daeth y syniad.”
Mae Hogia Ni wedi bod yn ran boblogaidd o set fyw y band, ac addasiad o’r gân honno yw’r traciau newydd a fydd ar gael i’w llawrlwytho yn ddigidol o Fawrth 3 ymlaen. Cafodd Gwerinos gymorth o sawl lle wrth roi’r traciau at ei gilydd yn Stiwdio Sain yn ystod mis Ionawr. Mae Yws Gwynedd yn canu un bennill ar y traciau a cheir lleisiau soniarus criw Ar Y Marc, BBC Radio Cymru yn gymorth yn y gytgan. Ychwanegwyd seiniau offerynnau prês gan aelodau o Fand Prês Deiniolen. Daeth syniad y clawr oddi ar un o grysau T ‘Spirit of 0’ o’r Bala sy’n arbennigo ar ddylunio dillad i gefnogwyr pêl droed Cymru. Bydd holl elw’r traciau yn mynd i’r Elusen Gôl, elusen a sefydlwyd gan gefnogwyr Cymru ac sy’n mynd a rhoddion i blant dan anfantais yn y gwledydd tramor y bydd Cymru yn ymweld â hwy. Mae’r traciau felly yn gywaith go iawn o sawl agwedd o bêl droed yng Nghymru a’r gobaith ydy y clywir y gân yn cael ei bloeddio yn Ffrainc dros yr haf.
Share

Tanysgrifiwch i'n e-byst
Byddwch y cyntaf i wybod am stoc newydd a chynigion unigryw.