Sylwch: Oherwydd sefyllfa barhaus COVID19, gall danfoniadau gymryd mwy o amser na'r arfer ar hyn o bryd!

Steffan Hughes - Steffan

Disgrifiad
  • Rhifnod: Sain SCD2791
  • Label: Sain
  • Genre: Gwrando'n Hawdd
  • Fformat: Albwm
  • Dyddiad Rhyddhau: 2018

Mae Sain yn falch o gyhoeddi albym newydd sbon gan Steffan Hughes – casgliad o ganeuon Cymraeg a Saesneg mewn amrywiol arddulliau – gwerin, sioeau cerdd, clasurol poblogaidd a gospel, ynghyd â chyfansoddiad newydd gan Steffan ei hun a chân newydd gan Caryl Parry Jones. Cychwynnodd Steffan ganu yn XNUMX oed ac mae’n wyneb cyfarwydd ar lwyfannau eisteddfodau a chyngherddau Cymru ers yn oedran ifanc. Recordiodd ei albym cyntaf ‘Cana o dy Galon’ yn XNUMX oed ac yn dilyn y record hynny, derbyniodd wahoddiad i ganu deuawd gyda Katherine Jenkins ar ei chweched albym ‘Sacred Arias’ gan gyrraedd rhif XNUMX yn y siartiau albyms Prydeinig nôl yn XNUMX.

Erbyn hyn mae Steffan yn un o’r wyth aelod o Only Men Aloud, y grŵp lleisiol a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth y BBC ‘Last Choir Standing’, gan berfformio ar lwyfannau ledled Prydain a’r byd. Ymysg yr uchafbwyntiau yn ei yrfa hyd yma mae perfformio yn Mumbai, India, cymryd rhan yn nhaith Haf y Proms Prydeinig a chanu i’r dorf yn Stadiwm y Principality yn ystod gemau rhyngwladol y 8 gwlad. Cyhoeddwyd chweched albym Only Men Aloud ynghyd â thaith Prydeinig i’w hyrwyddo yn 12. Mae Steffan hefyd yn cyflwyno cyfres ‘Sioeau Cerdd Steffan Rhys’ ar BBC Radio Cymru gan sgwrsio gyda nifer o enwau mawr Cymreig y byd sioeau cerdd, yn ogystal a chanotrion ifanc.

Recordiwyd yr albym newydd yn Stiwdio Sain, Llandwrog dan ofal y cyfarwyddwr cerdd a’r cynhyrchydd Geraint Cynan. Yn westai arbennig ar yr albym mae’r gantores Mared Williams, ac mae Mared yn ymuno gyda Steffan i berfformio cyfansoddiad newydd sbon gan Caryl Parry Jones – Y Mur. ,,

, ,,

Rhestr y Traciau

  1.   Dagrau yn y Glaw
  2.   Lisa Lân
  3.   Nid Fi yw Mab Fy Nhad
  4.   Thankful
  5.   Y Mur
  6.   Landslide
  7.   Ceiniog y Brenin
  8.   Glaw
  9.   His Eye is on the Sparrow
  10.   Feels Like Home
  11.   Eiliad
£12.98
Uchafswm maint sydd ar gael.

Cynhyrch perthnasol